Sunday 19 August 2012

Teulu'r Beasleys

Mae'n siwr mai un o atgofion Eisteddfod Bro Morgannwg a fydd yn aros am yn hir iawn  fydd y babell wag oedd yn deyrnged anrhydeddus i Trefor ac Eileen Beasley. Diolch i Angharad am ei gweledigaeth.

Er y cafwyd gryn gyhoeddusrwydd yn y wasg a'r cyfryngau Cymraeg nid felly yn y Saesneg. Nid oedd gair am farwolaeth Eileen Beasley yn y Llanelli Star. Mae hyn yn codi cwetiwn arall. Mae hyn yn codi cwestiwn arall. tybed faint a ddysgir am Trefor ac Eileen Beasley yn ein hysgolion ni, hyd yn oed yn Llanelli.