Wednesday 25 January 2012

Hoffech chi fod yn aelod o Fwrdd Iechyd Hywel Dda!

Mae Bwrdd Iechyd Hywel dda yn hysbysebu am aelod o'r bwrdd. Dyma hi os oes diddordeb gyda chi.

I wneud y cais ewch i  Gwneud cais

PENODI AELODAU ANNIBYNNOL I FYRDDAU IECHYD LLEOL PRIFYSGOL ABERTAWE BRO MORGANNWG A HYWEL DDA

Mae Byrddau Iechyd Lleol (BILlau) yn gyfrifol am gynllunio, dylunio, datblygu a sicrhau’r ddarpariaeth o wasanaethau gofal sylfaenol, gofal cymunedol a gofal mewn ysbytai a, lle bo hynny’n briodol, am wasanaethau arbenigol ar gyfer dinasyddion yn eu hardaloedd eu hunain, er mwyn bodloni'r anghenion lleol a nodwyd yn y fframwaith polisi a safonau cenedlaethol a bennwyd gan y Gweinidog.

Aelodau Annibynnol ar gyfer BILlau

Disgwylir i Aelodau Annibynnol weithio gyda'u Cyfarwyddwyr Gweithredol i ddatblygu strategaeth a pholisi a sicrhau llywodraethu cadarn. Hefyd disgwylir iddynt ddod â barn annibynnol i'r Bwrdd er mwyn herio fel y bo'n briodol gynlluniau ariannol a chynlluniau ar gyfer gwasanaethau.

Mae’r swyddi gwag fel a ganlyn.

Ø     Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (Band 4) - penodiad cymunedol

Ø     Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda (Band 3) – penodiad cymunedol  

Penodir Aelodau Annibynnol am gyfnod o hyd at bedair (4) blynedd ac mae’r swydd yn gofyn am ymrwymiad tybiedig o bedwar (4) diwrnod y mis o leiaf, ond bydd hynny’n amodol ar ofynion y sefydliad. Maen nhw’n gymwys i dderbyn tâl cydnabyddiaeth o £15,936 (Band 4) ac £13,344 (Band 3) y flwyddyn am 4 diwrnod y mis.

Mae gennym ddiddordeb yn arbennig i glywed oddi wrth grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol megis menywod, pobl anabl ac unigolion o leiafrifoedd ethnig.

I gael rhagor o wybodaeth neu i ymgeisio, ewch i www.cymru.gov.uk/penodiadaucyhoeddus neu i wneud ymholiadau, cysylltwch â'r Ddesg Gymorth Adnoddau Dynol yn Llywodraeth Cymru trwy e-bostio: hr-helpdesk@wales.gsi.gov.uk  neu ffonio: 029 2082 5454.

Rhaid i ffurflenni cais ein cyrraedd erbyn 16 Chwefror 2012. Pwysig: mae i bob swydd ei ffurflen gais ei hunan. Gwnewch yn siŵr eich bod yn llenwi’r un gywir. Disgwylir i’r cyfweliadau gael eu cynnal yn yr wythnos yn dechrau 19 Mawrth.   

I gael fersiwn print bras, Braille neu sain o'r hysbyseb hon, ffoniwch 029 2082 5454.


No comments:

Post a Comment