Thursday 2 February 2012

Keith Davies yn colli cyfle arall

Ddydd Mercher diwethaf yr oedd dadl yn y Cynulliad ar Unedau Damweiniau ac Achosion Brys. Tra yr oedd aelodau etholaethau Ceredigion a Phenfro yn gwneud ei gorau glas i ammddiffyn eu hunedau  beth mae aelod Llanelli yn ei wneud? Cwyno bod cleifion yn cael eu cludo i Gaerfyrddin yn hytrach na Threforys. Anhygoel.
Gwrandewch

Keith Davies:
"Fel rhan o’r rhaglen llywodraethu, bwriedir
datblygu rhaglen gwella’r gwasanaeth
ambiwlans i sicrhau ymateb cyflym i alwadau
pan fo cleifion yn wynebu afiechydon sy’n
golygu bod eu bywydau mewn perygl. Am
ryw reswm, efallai rheswm ariannol, mae
mwy o gleifion o Lanelli yn cael eu
trosglwyddo i Ysbyty Cyffredinol Glangwili
nag i Ysbyty Treforys, er bod Ysbyty
Treforys yn agosach. Oni ddylai cleifion cael
eu cludo i’r ysbyty addas agosaf ac nid i
ysbyty sy’n bellach i ffwrdd dim ond
oherwydd ei fod yn ardal y bwrdd iechyd
lleol? Byddaf yn cwrdd รข chadeirydd y
gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru dydd
Gwener i bwysleisio hyn. Mae’n synnwyr
cyffredin i dorri i lawr ar hyd bob siwrne er
mwyn arbed arian. Byddaf yn pwysleisio
hynny dydd Gwener."

I ddilyn y ddadl i gyd:

Dadl Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys






No comments:

Post a Comment